Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 3 Chwefror 2015

 

 

Amser y cyfarfod:
13.30

 

 

 

 

Pleidleisiau a Thrafodion

(244)

 

<AI1>

1     Cwestiynau i'r Prif Weinidog

 

Dechreuodd yr eitem am 13.30

 

Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf.

 

Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

</AI1>

<AI2>

2     Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

Dechreuodd yr eitem am 14.17

 

</AI2>

<AI3>

3     Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ar y Papur Gwyn ar Lywodraeth Leol

 

Dechreuodd yr eitem am 14.40

 

</AI3>

<AI4>

4     Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Ardrethi Busnes

 

Dechreuodd yr eitem am 15.25

 

</AI4>

<AI5>

5     Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Gwella uchelgais a chyrhaeddiad addysgol plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru

 

Dechreuodd yr eitem am 15.50

 

</AI5>

<AI6>

6     Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: Y wybodaeth ddiweddaraf am gydweithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau

 

Dechreuodd yr eitem am 16.33

 

</AI6>

<AI7>

7     Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Arloesi Meddygol

 

Dechreuodd yr eitem am 17.05

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

NDM5680 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Arloesi Meddygol sy'n ymwneud â thrin a lliniaru clefyd, salwch, anaf, anabledd ac anhwylder meddwl; darparu gwasanaethau iechyd; llywodraethu clinigol a safonau gofal iechyd i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

0

0

54

54

Gwrthodwyd y cynnig.

 

</AI7>

<AI8>

8     Dadl: Adolygiad o Addasiadau Byw'n Annibynnol

 

Dechreuodd yr eitem am 17.24

 

NDM5682 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau addasiadau a sut maent yn helpu pobl i barhau i fyw'n annibynnol yn eu cartref eu hunain am gyhyd â phosibl.

 

2. Yn nodi canfyddiadau'r Adolygiad o Addasiadau ar gyfer Byw'n Annibynnol, a gyhoeddwyd ar 23 Ionawr 2015.

 

3. Yn cefnogi gweithredu gan Lywodraeth Cymru i wella'r cymorth sydd ar gael i bobl sydd angen tai wedi'u haddasu.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) sicrhau bod awdurdodau lleol yn gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol i lunio siarter cwsmeriaid yn amlinellu ymrwymiadau mewn perthynas â gwasanaethau addasiadau;

 

b) gweithio gydag awdurdodau lleol a darparwyr tai cymdeithasol i nodi safonau ar gyfer amseroedd darparu a sicrhau eu bod yn cael eu bodloni gan bob awdurdod lleol;

 

c) archwilio gwasanaethau addasiadau i ganfod arfer gorau a'i roi ar waith; a

 

d) rhoi mecanweithiau ar waith i fonitro boddhad cwsmeriaid a chanlyniadau tymor hwy.

 

Derbyniwyd Gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn credu bod y profion modd ar gyfer addasiadau yn annheg ac yn hen ffasiwn.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

11

32

54

Gwrthodwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi argymhellion allweddol yr ymgyrch Home Truths gan Leonard Cheshire Disability a'r adroddiad No Place Like Home.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol eithrio mân addasiadau o brofion modd, fel yr argymhellir yn yr adolygiad.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5682 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau addasiadau a sut maent yn helpu pobl i barhau i fyw'n annibynnol yn eu cartref eu hunain am gyhyd â phosibl.

 

2. Yn nodi canfyddiadau'r Adolygiad o Addasiadau ar gyfer Byw'n Annibynnol, a gyhoeddwyd ar 23 Ionawr 2015.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) sicrhau bod awdurdodau lleol yn gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol i lunio siarter cwsmeriaid yn amlinellu ymrwymiadau mewn perthynas â gwasanaethau addasiadau;

 

b) gweithio gydag awdurdodau lleol a darparwyr tai cymdeithasol i nodi safonau ar gyfer amseroedd darparu a sicrhau eu bod yn cael eu bodloni gan bob awdurdod lleol;

 

c) archwilio gwasanaethau addasiadau i ganfod arfer gorau a'i roi ar waith; a

 

d) rhoi mecanweithiau ar waith i fonitro boddhad cwsmeriaid a chanlyniadau tymor hwy.

 

4. Yn nodi argymhellion allweddol yr ymgyrch Home Truths gan Leonard Cheshire Disability a'r adroddiad No Place Like Home.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol eithrio mân addasiadau o brofion modd, fel yr argymhellir yn yr adolygiad.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 

</AI8>

<AI9>

9     Cyfnod Pleidleisio

 

Dechreuodd yr eitem am 18.06

</AI9>

<AI10>

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

 

Daeth y cyfarfod i ben am 18.08

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 4 Chwefror 2015

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>